Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Hydref 2023
Amser:
09.30 -
12.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13507
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Emma Alexander, Llywodraeth Cymru Will Whiteley, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod Preifat (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Datganodd Mike Hedges AS mai ef yw Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS).
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Rhagor o wybodaeth yn dilyn sesiwn ar y gyllideb a gynhaliodd Comisiwn y Senedd ar 5 - 10 Hydref 2023
2.2 PTN 2 - Llythyr gan yr Undeb PCS: Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25 - 11 Hydref 2023
2.3 PTN 3 – Llythyr gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys: Datganiad Hydref Llywodraeth y DU - 11 Hydref 2023
3 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23, a’r Amcangyfrif ar gyfer 2024-25: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2022-23, a’r Amcangyfrif ar gyfer 2024-25 gan Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella; a Katrin Shaw, Prif Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau.
Egwyl (10.30-10.45)
Y Cyhoedd
4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Sesiwn dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad; Will Whiteley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio’r Senedd; ac Emma Alexander, Pennaeth Cyflawni ar gyfer Diwygio’r Senedd.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022-23, a’r Amcangyfrif ar gyfer 2024-25: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25: Trafod yr adroddiad drafft
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Graffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25 a chytunodd arno.